Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
National Assembly for Wales |
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau |
Economy, Infrastructure and Skills Committee |
Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol |
Regional Skills Partnerships |
EIS(5) RSP |
|
Ymateb gan Gofal Cymdeithasol Cymru |
Evidence from Social Care Wales
|
Mae’r ymateb hwn gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Sefydlwyd Gofal Cymdeithasol Cymru (dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2014) ym mis Ebrill 2017 gan ddod â rheoleiddio, datblygu’r gweithlu a gwella gwasanaethau gofal cymdeithasol o dan fantell un sefydliad. Bydd gennym rôl ddylanwadol wrth lywio blaenoriaethau ymchwil gofal cymdeithasol, gan feithrin cysylltiadau cryf â rhanddeiliaid allweddol er mwyn gwella gofal a chymorth. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd yn gyfrifol am ddatblygiad y gweithlu yn y sector gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar. Mae ein gwaith yn ceisio cefnogi blaenoriaethau llesiant cenedlaethau’r dyfodol ar gyfer y sector, y cyhoedd a Llywodraeth Cymru.
Mae’r tri nod strategol isod yn diffinio’r hyn rydym yn ei wneud:
· rhoi hyder i’r cyhoedd
· arwain a chefnogi gwelliant
· datblygu gweithlu
Fel rydym wedi amlinellu mewn cyhoeddiad yn ddiweddar[1], mae gofal cymdeithasol oedolion yn cyfrannu £1.2 biliwn yn uniongyrchol i economi Cymru, a chyfraniad ehangach o £2.2 biliwn. Mae tua 83,400 o bobl yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol oedolion, sy’n golygu o ran nifer y swyddi mai dyma’r seithfed sector cyflogaeth mwyaf yng Nghymru. Mae’r niferoedd hyn yn cynnwys amcangyfrifon o bobl sy’n cael eu cyflogi gan unigolion sy’n derbyn Taliadau Uniongyrchol neu sy’n prynu gofal neu gymorth gan bobl yn eu cymunedau yn hytrach na thrwy wasanaethau sydd wedi cael eu comisiynu gan fyrddau iechyd neu awdurdodau lleol. Mae’r sector gofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd yn cyflogi cyfanswm o tua 90,520 o bobl ac mae 23,300 yn rhagor yn cynnig gwasanaethau yn y blynyddoedd cynnar, y Cyfnod Sylfaen a gwaith chwarae ledled Cymru. Mae hyn yn fwy na’r GIG yng Nghymru. Yng nghyd-destun y DU, Cymru yw’r wlad sydd â’r gyfran fwyaf o’i gweithlu yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol oedolion. Mae’r sector yn tyfu, a disgwylir twf o 4% y naill flwyddyn ar ôl y llall tan 2023. Mae’n sail i’r economi sylfaenol yng Nghymru ac mae i gyfrif am ¾ y meysydd blaenoriaeth yn Ffyniant i Bawb.
Credwn ei bod yn bwysig bod data a thystiolaeth ranbarthol a chenedlaethol yn cael eu hategu â gwybodaeth, tystiolaeth a data sy’n ymwneud yn benodol â’r sector er mwyn cael darlun cyflawn o’r sgiliau sydd eu hangen.
O’n profiad ni, mae’r sefyllfa o ran data a thystiolaeth yn y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn amrywio’n fawr. Mae dwy bartneriaeth yn ymgysylltu’n llawn â’n sector ni’n benodol (drwy grwpiau clystyrau neu gyflogwyr) gyda ni neu drwon ni. Yn y sefyllfaoedd hyn mae’r partneriaethau’n llunio adroddiadau â thystiolaeth gymharol dda ac rydym wedi cael cynnig cyfle i gymryd cam yn ôl a gwirio cywirdeb rhai o’r adroddiadau hyn cyn iddynt gael eu cyhoeddi. Mae hyn wedi darparu cyfle i helpu i wella ansawdd data a thystiolaeth; darparu ffynonellau data a allai fod yn fwy cywir neu amserol a gwybodaeth sy’n ymwneud yn benodol â’r sector. Byddem yn croesawu eglurhad ynglŷn â dull cyson ac amserol o goladu data, tystiolaeth a gwybodaeth y gellid ei rannu â’r holl rhanddeiliaid perthnasol.
Gall y dirwedd o amgylch strwythurau
amrywiol sy’n cefnogi iechyd a gofal cymdeithasol a dysgu a
sgiliau fod yn gymhleth, ac yn aml mae ganddynt ffiniau neu
ôl troed gwahanol. Byddai’n fuddiol pe bai’r
Partneriaethau’n defnyddio neu’n adeiladu ar y
partneriaethau statudol sy’n bodoli’n barod, a gafodd
eu creu dan Ran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) 2014, fel ffordd o sicrhau dull mwy cydweithredol o weithio
ar y cyd â’n sector. Byddai’r profiad amrywiol
hwn yn cefnogi’r argymhellion yn Adroddiad Graystone bod
angen prosesau a mecanweithiau cyson, clir, agored a thryloyw
ledled Cymru. Bydd hyn hyd yn oed yn fwy arwyddocaol
â’r fargen ddinesig a’r fargen twf, a’r
pŵer a’r cyfrifoldebau llawer mwy sy’n debygol o
gael eu rhoi i Bartneriaethau Sgiliau yn dilyn y Comisiwn Addysg
Drydyddol ac Ymchwil arfaethedig.
Byddem yn cefnogi llawer o’r argymhellion a’r awgrymiadau a gynigiwyd gan Dr John Graystone yn yr adroddiad ar Lywodraethu Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ym mis Mawrth 2018. Yn fwyaf penodol, o ran bod yn agored ac yn dryloyw, sicrhau cyfrifoldebau ac atebolrwydd clir (y tu hwnt i aelodau o’r bartneriaeth i gyflogwyr ac eraill sy’n chwarae rhan allweddol) ac annog datblygu fforymau cyflogwyr er mwyn darparu gwybodaeth ar gyfer holl waith y partneriaethau. Unwaith eto mae hyn yn amrywio ledled Cymru o’n profiad ni, a lle mae fforymau penodol i’r sector, neu fforymau cyflogwyr mwy cyffredinol, mae gennym fwy o hyder bod barn pobl nad ydynt yn eistedd ar fyrddau, a barn pob sector yn wir, wedi cael ei chlywed a’i chynrychioli. Nid yw hyn yn gyson rhwng y 3 partneriaeth.
Mae barn darparwyr dysgu a dysgwyr yn bwysig ond mae angen cael sicrwydd a chydbwysedd yng nghyswllt llais y cyflogwyr. Os ydym am weld trawsnewid go iawn mae angen sicrwydd ynglŷn â llais cyflogwyr, cyrff rheoleiddio a chyrff perthnasol eraill er mwyn i’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr fod yn gydnaws â gofynion diwydiant, rhagolygon cyflogaeth a ffyniant economaidd yn ymarferol. Mae hyn yn amrywio o’r naill bartneriaeth i’r llall. Mae’r canlyniadau a’r gweithredu sy’n deillio o’r Adolygiad Seneddol ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru[2] a Cymru Iachach[3] yn creu nifer o heriau i ddarparu gwasanaethau mewn ffyrdd gwahanol ac, o ganlyniad, ar gyfer dysgu a datblygu’r gweithlu. Adlewyrchir hyn yn y gwaith o gyflawni’r Cynllun Gweithlu gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru[4]. Bydd ar y polisïau hyn angen ymatebion cenedlaethol a lleol ar gyfer cyllido a darparu Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol. Mae enghreifftiau da o hyn, lle mae un Bartneriaeth wedi cydnabod pwysigrwydd y newidiadau rheoleiddio ym maes gofal cymdeithasol[5] ac wedi rhoi statws blaenoriaeth a chefnogaeth i uwchsgilio’r gweithlu.
Mae enghraifft o hyn ddim yn gweithio cystal
i’w gweld ym Margen Twf Gogledd Cymru[6]. Mae arian wedi’i ddyrannu
er mwyn datblygu rhaglen ddysgu mewn sefydliadau Addysg Uwch yng
Ngogledd Cymru i uwchsgilio’r gweithlu iechyd a gofal
cymdeithasol. Ymddangosodd y rhaglen heb ymgynghori ymlaen llaw
â chyflogwyr gwasanaethau cymdeithasol na gwasanaethau iechyd
yn y rhanbarth, ac yn sicr heb i’r bwrdd gweithlu statudol, y
Bwrdd Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol, fod yn
gwybod amdani ac yn ei chefnogi. Ni fyddai hyn wedi bod yn
flaenoriaeth o safbwynt anghenion y gweithlu yn y naill is-sector
na’r llall, ac mae pryder yn y sectorau ai sefydliadau AU
sydd yn y sefyllfa orau i ddiwallu anghenion datblygiad
proffesiynol parhaus y gweithlu. Dyma un enghraifft lle na ofynnwyd
am farn cyflogwyr ac mae’n cefnogi’r angen am well
ymgysylltu a thryloywder.
Ni allwn gynnig llawer o wybodaeth
ynglŷn â hyn gan nad oes gennym brofiad uniongyrchol
ohono.
Unwaith eto, mae hyn yn amrywio o’r naill ranbarth i’r llall ac mae’n gweithio orau mewn sefyllfaoedd lle mae ymgysylltu go iawn â chyflogwyr neu sefydliadau sy’n gallu cynrychioli cyflogwyr o ddifri neu sy’n arweinwyr neu’n gyrff rheoleiddio yn y sector. Er mwyn i hyn fod yn real ac yn ystyrlon, mae angen i ymgysylltu cyson ac effeithiol â chyflogwyr a/neu grwpiau eraill megis rheoleiddwyr gweithluoedd fod yn well, ledled Cymru ac ym mhob sector. O’n profiad ni, hyd yn oed os oes grwpiau clwstwr gall dulliau gweithredu’r cyfarfodydd fod yn anghyson. Byddai creu rhywfaint o gysondeb o fudd i gyrff cenedlaethol a chyflogwyr. Byddem yn cefnogi meincnod drwy Gymru gyfan ar gyfer prosesau a dulliau sy’n caniatáu rhyw gymaint o hyblygrwydd, a dysgu ar draws rhanbarthau, ac yn ychwanegol at y meincnodau penodol hynny sy’n ychwanegu gwerth rhanbarthol.
Nid ydym yn credu bod hyn yn wir bob amser. Mae rôl gofal cymdeithasol, gofal plant yn y blynyddoedd cynnar ac iechyd meddwl, o fewn yr economi sylfaenol, yn cael ei chrisialu yn Ffyniant i Bawb[7]. Mae’r cysylltiadau uniongyrchol rhwng elfen gyflogadwyedd gwaith a’r Prif Swyddogion Rhanbarthol â’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn dal yn aneglur. Mae’r cysylltiad hwn a gweithio ar y cyd yn hanfodol er mwyn sicrhau cynllunio strategol ar gyfer cyfeiriad polisi ehangach, e.e. dylid ystyried bod y cysylltiadau a’r sectorau blaenoriaeth sy’n cael eu nodi yn Ffyniant i Bawb[8]ac yn y Cynllun Cyflogadwyedd[9] yr un mor bwysig â phrosiectau cyfalaf a phrosiectau mewnfuddsoddi mawr proffil uchel. Nid oes cysondeb ledled Cymru.
O’n profiad ni, mae’r
trafodaethau ynglŷn â darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg
wedi bod yn gyfyngedig iawn, o fewn y bwrdd/byrddau neu yn y
grwpiau clwstwr eu hunain. Er bod ymrwymiadau i gefnogi’r
iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yng nghynigion amrywiol
y Fargen Twf, nid yw’n glir sut y bydd hyn yn digwydd mewn
gwirionedd. Er mwyn i hyn fod yn ystyrlon bydd angen
ymgysylltu’n llawn â chyflogwyr a bydd angen ymgysylltu
llawer mwy â phrosiectau fel Cymraeg Gwaith a Mwy na Geiriau
(dau gynllun yr ydym yn ymwneud llawer â hwy). Fel arweinydd
yn y sector rydym wedi gweithio gyda chyflogwyr, darparwyr dysgu a
dysgwyr er mwyn pwysleisio pa mor bwysig yw’r iaith Gymraeg
a’r gallu i weithio’n ddwyieithog ym meysydd iechyd a
gofal cymdeithasol, er mwyn helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau
Cymraeg neu i ddod yn fwy hyderus i’w defnyddio.
Teimlem na allem wneud sylw ynglŷn â hyn gan nad oes gennym brofiad uniongyrchol ohono.
Gweler ein sylwadau uchod. Gallai
rôl y Prif Swyddogion Rhanbarthol yng nghyswllt cyflogadwyedd
a’r economi sylfaenol fod yn hollbwysig er mwyn gwneud i hyn
ddigwydd.
Ni allwn wneud sylw ynglŷn â hyn gan nad
ydym yn gwybod beth sydd wedi cael ei rannu gyda’r
Partneriaethau. Er hyn, byddem
yn eich cyfeirio at ein sylwadau uchod ac rydym rywfaint yn amheus
bod Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn dyrannu cyllid ar sail
data, tystiolaeth neu wybodaeth anghyflawn. Rydym wedi cyhoeddi
adroddiad yn ddiweddar ar Werth Economaidd y Sector Gofal
Cymdeithasol i Oedolion yng Nghymru[10] sy’n rhoi rhagor o
wybodaeth am ddangosyddion economaidd amrywiol i’n sector yng
Nghymru. Amcangyfrifir ei fod yn werth £2 biliwn y flwyddyn i
economi Cymru (heb y sector iechyd) felly rhaid ei ystyried yn
arwyddocaol o ran darparu sgiliau a chyllid. Ar hyn o bryd mae
traean o holl brentisiaethau Cymru yn ein sector ac mae gennym fwy
o Brentisiaethau Uwch nag unrhyw sector arall. Nid yw hyn yn cael
ei adlewyrchu’n gyson yng nghynlluniau’r 3
Partneriaeth.
Byddwn yn parhau i chwarae ein rhan
yn y gwaith o weithredu Cymru Iachach: ein cynllun iechyd a gofal
cymdeithasol[11] ac rydym yn gwbl gefnogol i
alwad Llywodraeth Cymru i sefydlu “sector gofal cymdeithasol
cynaliadwy, sy’n darparu cyfleoedd pwysig o ran cyflogaeth a
gyrfaoedd fel rhan o’r ‘economi sylfaenol’ mewn
nifer o gymunedau”. Dylai system iechyd a gofal cymdeithasol
ddi-dor helpu i sicrhau cydraddoldeb rhwng gweithwyr iechyd a gofal
cymdeithasol, gwella telerau ac amodau a gwella proffil y sector
gofal cymdeithasol. Mae hyn yn galw am gyllid parhaus ar gyfer
sgiliau ar y lefelau sydd eu hangen yn y sector ac er mwyn ariannu
sector gofal cymdeithasol cynaliadwy a gwydn bydd angen atebion
newydd ac arloesol ar gyfer gwasanaethau a hefyd ar gyfer datblygu
sgiliau. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ers peth
amser nawr i ddarparu tystiolaeth o bwysigrwydd cadw cyllid
prentisiaethau Lefel 2 ar gyfer ein sector, gan mai dyma sy’n
ofynnol yn y diwydiant, a dyma un enghraifft lle mae polisi a
dewisiadau’r Llywodraeth yn groes i anghenion ein sector ac,
o ganlyniad, yn groes i agenda Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.
Rydym yn croesawu cyfleoedd i archwilio atebion posibl gyda
chydweithwyr polisi, yn genedlaethol ac yn rhanbarthol, er mwyn
ymateb i anghenion y sector, a chefnogi dinasyddion yn y pen
draw.
Nid ydym wedi gweld tystiolaeth o hyn yn ein sector hyd yn hyn.
[1] Gwerth Economaidd y Sector Gofal Cymdeithasol Oedolion – Cymru (Mehefin 2018)
[2] Chwyldro o’r Tu Mewn: Trawsnewid Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, Ionawr 2018 https://llyw.cymru/docs/dhss/publications/180116reviewcy.pdf
[3] Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mehefin 2018 https://llyw.cymru/docs/dhss/publications/180608healthier-wales-maincy.pdf
[4] Cynllun Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cymru yng Nghymru https://llyw.cymru/docs/dsjlg/publications/cyp/171215-childcare-play-early-years-workforce-plan-v2-cy.pdf
[5] Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2017
[6]https://northwaleseab.co.uk/sites/nweab/files/documents/growth_plan_doc_5_final.8.feb_.2018english.cleaned.pdf darllenwyd 20/2/2019
[7] Llywodraeth Cymru, Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol (2017)
[8] Ffyniant i Bawb: Y Strategaeth Genedlaethol, Medi 2017 https://beta.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2017-10/ffyniant-i-bawb-y-strategaeth-genedlaethol.pdf
[9] Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi, Mai 2018 https://llyw.cymru/docs/det/publications/171213-economic-action-plan-cy.pdf
[10] https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau/gwerth-economaidd-y-sector-gofal-cymdeithasol-i-oedolion-cymru
[11] Llywodraeth Cymru, Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2018)